Proffil
Mae’r côr yn un o’r rhai mwyaf yng Ngogledd Cymru a repertoire sy’n amrywio o Vivaldi i Andrew Lloyd Webber.
Mae wedi ymddangos gydag unawdwyr fel Bryn Terfel, Dennis O'Neill, Rhys Meirion,Gwyn Hughes Jones, ac mae wedi perfformio gyda seindyrf enwog ,gan gynnwys Glofa Grimethorpe, Black Dyke a Fodens
Pentref bychan yw Trelawnyd bum milltir i mewn i’r wlad o ’r Rhyl a Phrestatyn.
Manceinion - 65munLerpwl - 50munCaer - 25munLlandudno - 35munWrecsam - 50mun |
|
Ymarferion
Cynhelir yr ymarferion yn y Neuadd Goffa, Trelawnyd bob nôs Fawrth rhwng 7am a 9pm
Mae croeso i ymwelwyr yn yr ymarferion. Am wybodaeth, cysyllter a’r Ysgrifennydd
Ann Atkinson
Yn gydnabyddedig am ei dawn gerddorol, mae Ann yn adnabyddus fel arweinydd a chantores drwy’r DU a thramor
Yn Ionawr 2015, dilynodd Geraint Roberts fel y chweched arweinydd yn hanes y côr, a hi hefyd yw’r fenyw gyntaf.
Un o Gorwen yw Ann, a graddiodd gyda B.Ed o Goleg Prifysgol Cymru, cyn mynd ymlaen fel athrawes ysgol. Fodd bynnag, yn 1990, penderfynnodd astudio canu yn yr Academi Cerddoriaeth Frenhinol yn Llundain.
Yn ogystal a’i gyrfa canu. Ann hefyd yw Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerddoriaeth Rhyngwladol Gogledd Cymru. Mae’n gyfawryddwr cerdd Côr Meibion Bro Glyndŵr, ac hefyd yn diwtor i’r llais gyda Canolfan Gerdd William Mathias.
Rhwng 2002 a 2009, Ann oedd Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Froncysyllte. Yn ystod y cyfnod y hwn, bu’r côr yn llwyddianus yn yr Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen, a hefyd yng Ngŵyl Harmonie yn yr Almaen. Ar ôl arwyddo i gwmni recordiau Universal yn 2006, llwyddwyd i werthu tros filiwn albwm.
Cystadleuthau
Fe gafodd y côr lawer o lwyddiannau mewn cystadleuthau,gan ddod yn gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol saith o weithiau ;1967;1973;1983;1985;1992,1999 a 2007.
Wedi croesi Môr Iwerddon fe gafodd y côr y wobr gyntaf yn Ngwyl Ryngwladol Corc.
Ym 1981,fe ddaeth yn ail o 50 o gorau yng nghystadleuaeth bwysig BBC Cymru,ac yn ail orau eto yng nghystadleuaeth y BBC yn 2005.
Mae’r côr wedi cymryd rhan yng nghyngherddau’r Neuadd Albert i’r mil o leisiau,ac wedi ymddangos yn gyson ar Deledu B.B.C ac I.T.V.
Mae’r côr wedi perfformio mewn llawer rhan o Ewrop a Gogledd America gan gyflwyno amrywiaeth mawr o fiwsig, o ganeuon gwerin traddodiadol i glasuron cyfoes,llawer wedi eu trefnu’n arbennig gan eu harweinydd.
![]()
|
![]() Geraint yn dal y gwpan fuddugol yn Eisteddfod yr Wyddgrug yn 2007 |
Elusennau
Mae’r côr yn naturiol falch o’i waith yn codi’n uniongyrchol ac anuniongyrchol lawer o filoedd o bunnoedd at elusennau lleol a chenedlaethol
![]() Mayor's Charity Concert |
![]() Mayor's Charity Concert |