Hanes

1933

Ym Mawrth 1933,fe ffurfiodd 35 o bentrefwyr Trelawnyd,dan ei hen enw Newmarket, gôr i gystadlu yn eisteddfod y pentref.O fewn ychydig fisoedd fe dyfodd yr aelodaeth i 50,a daeth yr ysgolfeistr lleol,William Humphreys(tad y nofelydd Emyr Humphreys) yn arweinydd.Fe lwyddodd yn bennaf fel côr cystadleuol gyda llwyddiannau nodedig yn Nolgellau,Llanrwst ac Eisteddod enwog Lewis’ yn Lerpwl.

Trelawnyd Male Voice Choir 1938

1946

Yn ystod blynyddoedd y rhyfel ni chafodd y llyfrau eu cau er fod y côr heb fod yn canu,ond roedd Mai 14 1946 yn amlwg yn garreg filltir arall pan benderfynodd 24 o ddynion ail-godi’r côr a chynhaliwyd ei ymarfer cyntaf yn ysgol y pentref ar Fai 28.I’r dynion hyn mae’r diolch,i raddau mawr, fod y côr yn parhau mewn bodolaeth heddiw.Penodwyd yn arweinydd ysgolfeistr a cherddor adnabyddus lleol,T.Elford Roberts,a pharhaodd felly hyd 1955.

Buan y tyfodd Côr Newmarket i 60 o leisiau,ac yn oes aur cystadlu wynebodd gorau mor enwog â Chôr Orffiws Treforus,Pendyrus, Treorci,Rhos,Penrhyn a chôr Alun yr Wyddgrug.Gwelodd y cyfnod,hefyd lawer o ddarllediadau i’r B.B.C o Fangor,un ar achlysur arbennig coroni E.M y frenhines.

Elford Roberts
Elford Roberts Arweinydd 1946-1955

1955

Ym 1955 cymerodd Neville Owen,ysgolfeistr lleol,yr awenau hyd 1969.Gan ei fod yn gryn ddisgyblwr roedd bob amser yn pwysleisio cywirdeb cerddorol.Dan ei arweiniad enillodd y côr yn y Genedlaethol am y tro cyntaf ym 1967 yn y Bala.Bu raid torri côr o 82 o aelodau i lawr i 70 ar gyfer y gystadleuaeth yma.

Trelawnyd Male Voice Choir 1967

1970

Daeth cyn aelod,Dr Goronwy Wynne yn bedwerydd arweinydd ,1970 – 1981.Daeth ef â dimensiwn newydd a bu cynnydd yn rhif yr aelodaeth i record o 110.Cafwyd buddugoliaeth arall yn y Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973,yna dod yn agos ar lefel y Brif Gystadleuaeth Gorawl amryw droeon,heblaw dod yn ail teilwng iawn allan o 56 o gystadleuwyr yng nghystadleuaeth gyntaf ‘Côr y Flwyddyn’ y B.B.C. Fe ddaeth hefyd â phwyslais newydd ar arddull a chyflwyniad llwyfan.Mae llawer yn cofio ei ‘gimic’ o adael y llwyfan cyn diwedd Myfanwy.Dyma hefyd gyfnod ehangu gorwelion ac o deithiau cofiadwy i’r Alban,Iwerddon,yr Almaen,yr Iseldiroedd a Chanada,tipyn o newid yn wir o’r daith anturus i’r Wyddgrug mewn siarabang sydd ar gôf rhai o’r ‘hen ddwylo.’

Trelawnyd Male Voice Choir 1978

Goronwy Wynne with the trophy at the 1973 Eisteddfod
Goronwy Wynne gyda’r tlws yn Eisteddfod 1973.

1981

23 mlwydd oedd Geraint Roberts pan olynodd Goronwy Wynne fel y pumed arweinydd, swydd y bu ynddi am 34 mlynedd.

Yn ystod ei gyfnod fel cyfarwyddwr cerdd, creodd gôr gydag enw anrhydeddus, gan ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol bump gwaith.

Tros y blynyddoedd bu galw mawr amdano fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu a gwyliau cerddorol. Cafodd lwyddiant ar S4C drwy arwain Côr Rygbi Gogledd Cymru a Chôr Cymysg y Rhos. Mae hefyd wedi arwain dathliadau Gŵyl Dewi yn Melbourne, Awstralia sawl gwaith.

Choir