Adolygiadau
Corau Meibion Cymraeg Ynghyd, Yng Nghwmni Côr y Traeth, Côr Meibion Trelawnyd ac Orffiws y Rhos
Dewi Wyn (Tenor) Owen Webb (Bariton) Dylan Cernyw (Telynor)
Annette Bryn Parri (Piano)
Theatr yr Empire Lerpwl
Nos Sul,Ionawr 2 2006
Mae’r ffaith fod cymaint o leisiau – dros gant – heb ddibynnu ar feicroffonau i wneud eu hunain yn glywadwy mewn awditoriwm mor fawr yn peri syndod ynddo’i hun.Roedd y ffaith iddynt wneud hynny gyda chymaint o fanylder ac amseru yn cymryd anadl dyn.
Dan law dau arweinydd,Eifion Jones a Geraint Roberts, roedd y côr fel pe bai’n creu tonnau o sain yn ystod eu dehongliad o Gytgan y Milwyr,ac yn anadlu tân a brwmstan yn y Greadigaeth.Ar y llaw arall roedd yr hyfryd Myfanwy gan Joseff Parry yn deffro atgofion o blentyndod llawn emosiwn.
Roedd yr unawdwyr yn ddi-fai gyda Dewi Wyn yn cyflwyno Maria llawn o deimlad allan o West Side Story;ac roedd perfformiad Owen Webb o Gân y Barbwr allan o The Barber of Seville yn llawn o uchafbwyntiau o bleser.
Roedd gan Dylan Cernyw gyffyrddiad mor fedrus ar y delyn nes iddo ymddangos ar brydiau fel pe bai’n plycio’r nodau o’r awyr,tra roedd Annette Bryn Parri –sydd wedi ymddangos gyda llaweroedd o artistiaid enwog – ar ei gorau fel unawdydd,gyda’i gilydd roeddynt bron yn nefolaidd.
Y côr ei hun,serch hynny,a gododd y tô gyda chyflwyniad aruthrol a manwl o ‘You’ll Never Walk Alone,’Rogers a Hammerstein. Nid rhyw glytwaith gan Gerry Marsden, neu’r Kop oedd hwn ond cyflwyniad fel y bwriadwyd ef gan y cyfansoddwr –gydag egni ,steil a phroffesiynoldeb.
Roedd hwn yn un o amryw o berfformiadau a gyflwynir ar draws y wlad yn ystod y misoedd i ddod,aca fydd yn anogaeth i’r artistiaid ifanc a gafodd eu noddi gan y corau.Yn ôl tystiolaeth y cyngerdd neithiwr,mae hynny wedi ei gyflawni yn berffaith.
9/10
Chris High
www.chrishigh.com
Meistri Lleisiol
Rwyf bob amser wedi ystyried Trelawnyd ymhlith y mwyaf dawnus o gorau meibion Gogledd Cymru a phan ymddangosodd yn eu Gwyl Benwythnos Flynyddol yn eu pentref eu hunain roeddynt ar eu gorau gwychaf.Gyda thrigain a phump o flynyddoedd o’u hôl,rwyf yn cofio eu clywed am y tro cyntaf mewn eisteddfod bentref bron i hanner can mlynedd yn ôl.Maent ,bellach ,wedi aeddfedu i fod yn deall gofynion y corfeistr,Geraint Roberts,i’r dim,ac yn medru cynhyrchu hynny yn effeithiol dros ben.
Mae fel organ fawr,gyda bas bendigedig i gyflwyno’r sain fawr pan fo gofyn am hynny;ond er ei faint –ac roedd mwy na 70 yn canu nos Sul – fe allai ymdrin â’r darnau tawel yr un mor gelfydd.Roedd eu rhaglen yn ddigon amrywiol i ddangos pob agwedd ar eu meistrolaeth ar eu crefft.
Iorweth Roberts
Daily Post. Dydd Gwener, Hydref 16 1998
Meistri’r Llais. Jiwbili Diemwnt. Ymddangosiad Arbennig Terfel
Trigain mlynedd o Gân. Pafiliwn y Rhyl.
Fe ddaeth Bryn Terfel,yn ôl yn ei gynefin,a’i hud arbennig ei hun i,i danio dathliad jiwbili Côr Meibion Trelawnyd. Ychydig iawn o ôl ei oedran oedd ar y côr.Roedd y rhaglen wedi ei dethol yn ofalus i osgoi yr hen ddarnau trymion ystrydebol.
Dangosodd gyfyrddiadau cynnil a sylw gofalus i fanylion.Fe all yr aelodau hawlio iddynt rannu llwyfan gyda seren,ac fe all ef gofio iddo yntau ymddangos gyda chorff o gantorion sydd wedi cario’r faner gerddorol am drigain mlynedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Cyngerdd Dathlu 60 Mlynedd. Hydref 1993
Amrywiaeth da o Ganeuon Poblogaidd Gwerin
Mae dyled diwylliant Gogledd Cymru i’w chorau meibion yn enfawr,pe na bai ond am y cyfle a ddaw drwy eu cyngherddau mawreddog i glywed artistiaid byd enwog ar garreg ein drws.
Roedd y cyngerdd hwn yn ddigon hawdd i fyny â’r safon a ddisgwylir gan gynulleidfa ddeallus.Roedd y côr mewn hwyl gyda’r arweinydd,Geraint Roberts,heb ofni arbrofi gyda threfniannau hen a newydd.
Roedd yr holl repertoire wedi ei threfnu a’i chyflwyno’n dda,gyda sain ddisgybledig drwodd a thro.
Iorweth Roberts
Neuadd Philharmonig,Lerpwl
Daily Post, Hydref 7 1995
Noson Gofiadwy Gan Gôr Medrus
I siaradwyr yr iaith Gymraeg mae gan hen enw tref Trelawnyd,ystyr arbennig o ffrwythlon sef ‘Llawn o Yd’,teitl sydd yn parhau yn addas i’r canolfan amaethyddol yma.
Ond mae’r lle yr un mor gyfoethog mewn cerdd fel y darganfu’r gynulleidfa lawn yn eglwys Bresbyteraidd Kitchener ddydd Llun pan wnaeth Côr Meibion Trelawnyd ymddangosiad rhyfeddol o amrywiol dan eu harweinydd,Geraint Roberts.
Fe ddywedwyd fod yr acenion mwyaf prydferth yn dod o fryniau a dyffrynnoedd Cymru.Roedd hynny’n wir am bob gair a nodyn gan Gôr Trelawnyd.Er i’r côr llawn ymdrin â cherddoriaeth amrywiol gyda llefaru,traw a sain ardderchog,gydag ymateb na all y mwyafrif o arweinyddion ddim ond breuddwydio amdano, daeth yr eiliadau gorau yn y rhai Cymraeg.
Gyda’r gynulleidfa ar ei thraed,dywedodd bopeth a deimlai nos Lun,ond byddai mwy o’r deunydd traddodiadol sy’n gwneud i gorau meibion Cymraeg ennill cymaint o glod, wedi derbyn llawn cymaint o werthfawrogiad.
Roedd y cantorion o Drelawnyd yn wynebu’r un broblem ag unrhyw grwp tramor sef sut i gymysgu’r traddodiadol gyda’r newydd er mwyn creu argraff dda ar Ogleddwyr America. Y perygl yw i ni dderbyn yn ôl ein deunydd cerddorol ein hunain.Yn aml mae’r ymwelwyr yn ei gyflwyno’n well, ond mae eu deunydd eu hunain yn ddigymar.
By Pauline Durichen
Taith Canada, 1988