Recriwtio
Ydych chi'n mwynhau a chreu cerddoriaeth?
Ydych chi'n mwynhau teithio?
Fyddai perfformio ar lwyfan cyngerdd yn apelio atoch chi?
Hoffech chi rannu'r llwyfan gyda
pherfformwyr cenedlaethol a rhyng-genedlaethol?
Fyddai bod yn aelod o Gôr Meibion Cymraeg
o'r radd uchaf yn apelio atoch chi?
Mae canu gyda Threlawnyd yn brofiad bythgofiadwy,
ac mae'r côr yn chwilio am aelodau newydd bob amser.
Mae'r côr wedi teithio'n helaeth drwy Brydain ac Ewrop, ac wedi ymweld â Gogledd America ar ddau achlysur ……
Mae wedi ennill y brif wobr gorawl yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru chwe gwaith……
Mae'n haeddiannol falch o'i lwyddiant yn codi miloedd o bunnau i elusennau……
Mae'r gerddoriaeth gynigir gan y côr yn amrywiol,ac yn cynnwys amrediad eang o fiwsig i apelio at bob chwaeth……
Os hoffech chi deimlo'r cynnwrf o ganu gyda'r côr uchelgeisiol a bywiog yma,beth am ymuno â ni mewn ymarfer yn Neuadd Goffa Trelawnyd, a chyfrannu o'r profiad a gafodd ein hymwelwyr o bedwar ban byd……
I ymuno,y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw cael prawf llais byr er mwyn i'r cyfarwyddwr cerdd eich gosod yn yr adran addas o'r côr. Mi fyddwch wedyn yn aelod ar brawf am gyfnod o dri mis o leiaf,ac yn derbyn help gan Gynghorwr Llais.
Ar derfyn y cyfnod yma,os byddwch wedi bod yn gyson eich presenoldeb bydd y cyfarwyddwr yn cynnig prawf llais terfynol i sicrhau eich bod yr barod i lwyfannu.
Download and complete the application form and return it to:
The Secretary
5 Clos Llwyn Onn
Holywell
CH8 7UD
Pa un ai mewn eglwys leol,yn Neuadd Albert yn LLUndain,neu ar daith, bydd canu gyda Threlawnyd yn brofiad bythgofiadwy!
YMARFERION - Nôs Fawrth rhwng 7:00pm a 9:00pm
NEU Cysylltwch â'r Ysgrifennydd ar 01352 391071 / 07775 607345, e-bost Mr. Grahame Thomas